Diarhebion 12:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.

5. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.

6. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.

7. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.

8. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.

9. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.

Diarhebion 12