Diarhebion 12:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

17. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond celwydd a draetha'r gau dyst.

18. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,ond y mae tafod y doeth yn iacháu.

19. Erys geiriau gwir am byth,ond ymadrodd celwyddog am eiliad.

Diarhebion 12