Diarhebion 12:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.

14. Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.

15. Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,ond gwrendy'r doeth ar gyngor.

16. Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.

17. Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,ond celwydd a draetha'r gau dyst.

18. Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,ond y mae tafod y doeth yn iacháu.

Diarhebion 12