Diarhebion 10:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.

18. Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,a ffôl yw'r un sy'n enllibio.

19. Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.

20. Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,ond diwerth yw calon yr un drwg.

21. Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.

Diarhebion 10