Diarhebion 1:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. i roi craffter i'r gwirion,a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.

5. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,a'r deallus yn ennill medrusrwydd,

6. i ddeall dameg a'i dehongliad,dywediadau'r doeth a'u posau.

7. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.

8. Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;

9. bydd yn dorch brydferth ar dy ben,ac yn gadwyn am dy wddf.

10. Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,paid â chytuno â hwy.

Diarhebion 1