Diarhebion 1:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,a gwrthod fy ngherydd—

26. am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,

27. pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,a dinistr yn taro fel storm,pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.

28. Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.

Diarhebion 1