Deuteronomium 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn awr, O Israel, gwrando ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu dysgu ichwi heddiw; cadwch hwy er mwyn ichwi gael byw a mynd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi ichwi.

2. Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi.

3. Gwelsoch รข'ch llygaid eich hunain yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor; oherwydd dinistriodd yr ARGLWYDD eich Duw o'ch plith bob un oedd yn dilyn Baal-peor;

4. ond yr ydych chwi i gyd sydd wedi glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw yn fyw hyd heddiw.

Deuteronomium 4