Deuteronomium 32:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear,a bwyta cnwd y maes;parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn,ac olew o'r graig gallestr.

14. Cafodd ymenyn o'r fuches,llaeth y ddafad a braster ŵyn,hyrddod o frid Basan, a bychod,braster gronynnau gwenith hefyd,a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.

15. Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni;pesgodd Jesurun, a chiciodd;pesgodd, a thewychu'n wancus.Gwrthododd y Duw a'i creodd,a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.

16. Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr,a'i ddigio ag arferion ffiaidd.

17. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau,ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod,duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion,nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.

18. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd,a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.

19. Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy,oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.

Deuteronomium 32