Deuteronomium 28:50-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

50. cenedl sarrug ei gwedd, heb barch i'r hen na thiriondeb at yr ifanc.

51. Bydd yn bwyta cynnyrch dy fuches a'th dir, nes dy ddinistrio; ni fydd yn gadael ar ôl iti nac ŷd na gwin nac olew, na chynnydd dy wartheg nac epil dy ddefaid, nes dy ddifodi.

52. Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.

Deuteronomium 28