Deuteronomium 22:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd.

11. Nid wyt i wisgo dilledyn o frethyn cymysg o wlân a llin.

12. Gwna iti blethau ar bedair congl y clogyn y byddi'n ei wisgo.

13. Bwriwch fod dyn yn cymryd gwraig, ac yna wedi iddo gael cyfathrach â hi, yn ei chasáu,

14. yn rhoi gair drwg iddi, ac yn pardduo'i chymeriad a dweud, “Priodais y ddynes hon, ond pan euthum ati ni chefais brawf o'i gwyryfdod.”

15. Os felly, fe gymer tad a mam yr eneth brawf gwyryfdod yr eneth a'i ddangos i'r henuriaid ym mhorth y dref;

Deuteronomium 22