Deuteronomium 21:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Yna y mae henuriaid y dref agosaf at y corff i gymryd heffer na fu'n gweithio erioed ac na fu dan yr iau,

4. a mynd â hi i lawr i ddyffryn heb ei drin na'i hau, ond lle mae nant yn rhedeg. Yno yn y dyffryn torrant wegil yr heffer.

5. Yna daw'r offeiriaid, meibion Lefi, ymlaen, gan mai hwy y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi eu dewis i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw, ac yn ôl eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes.

6. A bydd holl henuriaid y dref agosaf at y corff yn golchi eu dwylo uwchben yr heffer y torrwyd ei gwegil yn y dyffryn,

7. a thystio, “Nid ein dwylo ni a dywalltodd y gwaed hwn, ac ni welodd ein llygaid mo'r weithred.

8. Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid â gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog.” Felly, gwneir cymod am y gwaed.

9. Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

10. Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,

11. ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.

12. Tyrd â hi adref, a gwna iddi eillio'i phen, naddu ei hewinedd,

13. a rhoi heibio'r wisg oedd amdani pan ddaliwyd hi; yna caiff fyw yn dy dŷ a bwrw ei galar am ei thad a'i mam am fis o amser. Wedi hynny cei gyfathrach â hi, a bod yn ŵr iddi hi, a hithau'n wraig i ti.

14. Ond os na fyddi'n fodlon arni, yr wyt i'w gollwng yn rhydd; nid wyt ar unrhyw gyfrif i'w gwerthu am arian na'i thrin fel caethferch, gan iti ei threisio.

Deuteronomium 21