Deuteronomium 12:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Ond am y pethau sydd gennyt i'w cysegru, a'th addunedau, cymer hwy a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,

27. ac abertha dy boethoffrymau, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw; y mae gwaed dy ebyrth i'w dywallt ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw, ond cei fwyta'r cig.

28. Gofala wrando ar yr holl eiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl hyd byth, am iti wneud yr hyn sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw.

29. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn distrywio o'th flaen y cenhedloedd yr wyt yn mynd i'w disodli. Pan fyddant wedi eu disodli a'u difa o'th flaen, a thithau'n byw yn eu gwlad,

30. gwylia rhag iti gael dy rwydo i'w canlyn, a holi am eu duwiau: “Sut yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli eu duwiau, er mwyn i minnau wneud yr un fath?”

31. Nid yn ôl eu dull hwy y gwnei i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd yr oedd y cwbl a wnaent hwy i'w duwiau yn ffieidd-dra atgas gan yr ARGLWYDD; yr oeddent hyd yn oed yn llosgi eu meibion a'u merched yn y tân i'w duwiau.

Deuteronomium 12