Datguddiad 17:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna daeth un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, a siarad â mi. “Tyrd yma,” meddai, “dangosaf iti'r farn ar y butain fawr sy'n eistedd ar lawer o ddyfroedd.

2. Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac ar win ei phuteindra y meddwodd trigolion y ddaear.”

3. Yna cludodd fi yn yr Ysbryd i anialwch. Gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad ag enwau cableddus drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.

Datguddiad 17