Datguddiad 16:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed.

5. Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud:“Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un,yn y barnedigaethau hyn.

6. Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi,rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed;dyma eu haeddiant.”

7. Yna clywais yr allor yn dweud:“Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog,gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.”

Datguddiad 16