Datguddiad 13:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen,

17. ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.

18. Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.

Datguddiad 13