Datguddiad 13:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig.

12. Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.

13. Gwnaeth arwyddion mawr, gan beri hyd yn oed i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear gerbron pawb.

14. Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd â'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw.

15. Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.

16. Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen,

17. ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.

18. Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.

Datguddiad 13