Daniel 6:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.

10. Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w dŷ. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddïo a thalu diolch i'w Dduw, yn ôl ei arfer.

11. Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.

Daniel 6