Daniel 3:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. A dywedodd Nebuchadnesar, “Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r tân yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.

29. Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei dŷ i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn.”

30. Yna parodd y brenin lwyddiant i Sadrach, Mesach ac Abednego yn nhalaith Babilon.

Daniel 3