Daniel 1:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod.

15. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.

16. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.

17. Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.

18. Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar.

Daniel 1