Daniel 1:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia,

12. “Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed,

13. ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda.”

14. Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod.

15. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.

Daniel 1