Colosiaid 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

2. Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.

3. Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.

4. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.

Colosiaid 3