Caniad Solomon 4:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. nard a saffrwn, calamus a sinamon,hefyd yr holl goed thus,myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.

15. Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd bywyn ffrydio o Lebanon.

16. Deffro, O wynt y gogledd,a thyrd, O wynt y de;chwyth ar fy ngarddi wasgaru ei phersawr.Doed fy nghariad i'w ardd,a bwyta ei ffrwyth gorau.

Caniad Solomon 4