Caniad Solomon 2:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,a'm hadfywio ag afalau,oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.

6. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.

7. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnochyn enw iyrchod ac ewigod y maes.Peidiwch รข deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.

8. Ust! dyma fy nghariad,dyma ef yn dod;y mae'n neidio ar y mynyddoedd,ac yn llamu ar y bryniau.

Caniad Solomon 2