Caniad Solomon 1:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. O ferched Jerwsalem,er fy mod yn dywyll fy lliwfel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,yr wyf yn brydferth.

6. Peidiwch รข rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,oherwydd i'r haul fy llosgi.Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.

7. Fy nghariad, dywed wrthyfymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.Pam y byddaf fel un yn crwydrowrth ymyl praidd dy gyfeillion?

8. O ti, y decaf o ferched,os nad wyt yn gwybod,yna dilyn lwybrau'r defaid,a bugeilia dy fynnodgerllaw pebyll y bugeiliaid.

9. F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybui feirch cerbydau Pharo.

10. Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,a'th wddf gan emau.

Caniad Solomon 1