Barnwyr 9:29-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. O na fyddai'r bobl yma dan fy awdurdod i! Mi symudwn i Abimelech. Dywedwn wrtho, ‘Cynydda dy fyddin a thyrd allan.’ ”

30. Pan glywodd Sebul, goruchwyliwr y ddinas, eiriau Gaal fab Ebed, fe wylltiodd.

31. Anfonodd negeswyr at Abimelech i Aruma a dweud, “Edrych, y mae Gaal fab Ebed a'i gymrodyr wedi dod i Sichem, ac yn troi'r dref yn d'erbyn.

32. Yn awr, cychwyn di liw nos gyda'r bobl sydd gennyt, ac ymguddia allan yn y wlad;

33. yna, yfory ar godiad haul, gwna gyrch cynnar ar y dref, a phan ddaw ef a'r bobl sydd gydag ef allan i'th gyfarfod, gwna dithau iddo orau y medri.”

34. Cychwynnodd Abimelech a'r holl bobl oedd gydag ef liw nos, ac ymguddio yn bedair mintai yn erbyn Sichem.

35. Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll ym mynediad porth y dref, cododd Abimelech a'r dynion oedd gydag ef o'u cuddfan.

36. Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, “Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd.” Ond dywedodd Sebul wrtho, “Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt.”

Barnwyr 9