Barnwyr 8:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Ac meddai Gideon, “Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd.”

20. Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, “Dos, lladd hwy.” Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.

21. Yna dywedodd Seba a Salmunna, “Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.

Barnwyr 8