Barnwyr 3:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera.

8. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd.

9. Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd.

Barnwyr 3