Barnwyr 21:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ac meddent, “Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel.

18. Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, ‘Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.’ ”

19. A dyna hwy'n dweud, “Y mae gŵyl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du'r gogledd i Fethel, ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n arwain o Fethel i Sichem, i'r de o Lebona.”

20. A rhoesant orchymyn i'r Benjaminiaid, “Ewch ac ymguddiwch yn y gwinllannoedd,

Barnwyr 21