Barnwyr 20:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.

2. Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wŷr traed yn dwyn cleddyf.

3. Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, “Dywedwch sut y digwyddodd y fath gamwri.”

Barnwyr 20