1. Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, “Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod â chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, ‘Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth;
2. peidiwch chwithau â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.’ Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn?
3. Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi.”