Barnwyr 14:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.

2. Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, “Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi.”

3. Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, “Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?” Ond dywedodd Samson wrth ei dad, “Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd.”

Barnwyr 14