Barnwyr 1:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

22. Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.

23. Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel—Lus oedd enw'r ddinas gynt.

24. Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, “Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt.”

25. Dangosodd iddynt fynedfa i'r ddinas; trawsant hwythau'r ddinas â'r cleddyf, ond gollwng y gŵr a'i holl deulu yn rhydd.

26. Aeth yntau i wlad yr Hethiaid ac adeiladu tref yno, a'i henwi'n Lus; a dyna'i henw hyd heddiw.

27. Ni feddiannodd Manasse Beth-sean na Taanach a'u maestrefi, na disodli trigolion Dor, Ibleam, na Megido a'u maestrefi; daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.

28. Ond pan gryfhaodd Israel, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, heb eu disodli'n llwyr.

29. Ni ddisodlodd Effraim y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg yn Geser.

Barnwyr 1