Amos 7:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.

8. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd,“Wele fi'n gosod llinyn plwmyng nghanol fy mhobl Israel;nid af heibio iddynt byth eto.

9. Difodir uchelfeydd Isaaca distrywir cysegrleoedd Israel;a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.”

10. Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau.

11. Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”

12. A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.

13. Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.”

Amos 7