Amos 6:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn;bydd yn taro'r plasty yn deilchiona'r bwthyn yn siwrwd.

12. A garlama meirch ar graig?A ellir aredig môr ag ychen?Ond troesoch chwi farn yn wenwyn,a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

13. Llawenhau yr ydych am Lo-debar,a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunainy cymerasom ni Carnaim?”

14. “Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,”medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,“ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamathhyd at afon yr Araba.”

Amos 6