7. “Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;rhoddais law ar un ddinas,a'i atal oddi ar un arall;glawiodd ar un cae,a gwywodd y cae na chafodd law;
8. crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinasi yfed dŵr, ond heb gael digon;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
9. “Trewais chwi â malltod a llwydni;difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
10. “Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;lleddais eich llanciau â'r cleddyf,a chaethgludo eich meirch;gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
11. “Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.