Actau 8:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r gair.

5. Aeth Philip i lawr i'r ddinas yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt.

6. Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud;

7. oherwydd yr oedd ysbrydion aflan yn dod allan o lawer oedd wedi eu meddiannu ganddynt, gan weiddi รข llais uchel, ac iachawyd llawer o rai wedi eu parlysu ac o rai cloff.

Actau 8