Actau 8:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Claddwyd Steffan gan wŷr duwiol, ac yr oeddent yn galarnadu'n uchel amdano.

3. Ond anrheithio'r eglwys yr oedd Saul: mynd i mewn i dŷ ar ôl tŷ, a llusgo allan wŷr a gwragedd, a'u traddodi i garchar.

4. Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r gair.

5. Aeth Philip i lawr i'r ddinas yn Samaria, a dechreuodd gyhoeddi'r Meseia iddynt.

Actau 8