Actau 7:57-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

57. Rhoesant hwythau waedd uchel, a chau eu clustiau, a rhuthro'n unfryd arno,

58. a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul.

59. Ac wrth iddynt ei labyddio, yr oedd Steffan yn galw, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.”

Actau 7