Actau 7:41-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain.

42. A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sêr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi:“ ‘A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthauam ddeugain mlynedd yn yr anialwch, dŷ Israel?

43. Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch,a seren eich duw Raiffan,y delwau a wnaethoch i'w haddoli.Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.’

Actau 7