Actau 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gofynnodd yr archoffeiriad: “Ai felly y mae?”

2. Meddai yntau: “Frodyr a thadau, clywch. Ymddangosodd Duw'r gogoniant i'n tad ni, Abraham, ac yntau yn Mesopotamia cyn iddo ymsefydlu yn Haran,

3. a dywedodd wrtho, ‘Dos allan o'th wlad ac oddi wrth dy berthnasau, a thyrd i'r wlad a ddangosaf iti.’

4. Yna fe aeth allan o wlad y Caldeaid, ac ymsefydlodd yn Haran. Oddi yno, wedi i'w dad farw, fe symudodd Duw ef i'r wlad hon, lle'r ydych chwi'n preswylio yn awr.

Actau 7