Actau 5:18-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Cymerasant afael yn yr apostolion, a'u rhoi mewn dalfa gyhoeddus.

19. Ond yn ystod y nos agorodd angel yr Arglwydd ddrysau'r carchar a dod â hwy allan;

20. a dywedodd, “Ewch, safwch yn y deml a llefarwch wrth y bobl bob peth ynglŷn â'r Bywyd hwn.”

21. Wedi iddynt glywed hyn, aethant ar doriad dydd i mewn i'r deml, a dechreusant ddysgu. Wedi i'r archoffeiriad a'r rhai oedd gydag ef gyrraedd, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef senedd gyflawn cenedl Israel, ac anfonasant i'r carchar i gyrchu'r apostolion.

22. Ond ni chafodd y swyddogion a ddaeth yno hyd iddynt yn y carchar. Daethant yn eu holau, ac adrodd,

23. “Cawsom y carchar wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a'r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb oddi mewn.”

24. A phan glywodd prif swyddog gwarchodlu'r deml, a'r prif offeiriaid, y geiriau hyn, yr oeddent mewn penbleth yn eu cylch, beth a allai hyn ei olygu.

25. Ond daeth rhywun a dweud wrthynt, “Y mae'r dynion a roesoch yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu'r bobl.”

26. Yna aeth y swyddog gyda'i filwyr i'w nôl, ond heb drais, am eu bod yn ofni cael eu llabyddio gan y bobl.

Actau 5