Actau 28:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. “Bydded hysbys i chwi felly fod yr iachawdwriaeth hon, sydd oddi wrth Dduw, wedi ei hanfon at y Cenhedloedd, ac fe wrandawant hwy.”

30. Arhosodd Paul ddwy flynedd gyfan yno ar ei gost ei hun, a byddai'n derbyn pawb a ddôi i mewn ato,

31. gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist yn gwbl agored, heb neb yn ei wahardd.

Actau 28