Actau 27:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio.

30. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen.

31. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.”

32. Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith.

Actau 27