Actau 20:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull,

9. ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.

10. Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, “Peidiwch â chynhyrfu; y mae bywyd ynddo.”

11. Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith.

12. Ond aethant â'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.

13. Aethom ninnau o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir.

14. Pan gyfarfu â ni yn Asos, cymerasom ef i'r llong a mynd ymlaen i Mitylene.

15. Wedi hwylio oddi yno drannoeth, cyraeddasom gyferbyn â Chios, a'r ail ddiwrnod croesi i Samos, a'r dydd wedyn dod i Miletus.

16. Oherwydd yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Effesus, rhag iddo orfod colli amser yn Asia, gan ei fod yn brysio er mwyn bod yn Jerwsalem, pe bai modd, erbyn dydd y Pentecost.

Actau 20