Actau 19:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Felly, yn ôl nerth yr Arglwydd, yr oedd y gair yn cynyddu ac yn llwyddo.

21. Wedi i'r pethau hyn gael eu cwblhau, rhoddodd Paul ei fryd ar deithio trwy Facedonia ac Achaia, ac yna mynd i Jerwsalem. “Wedi imi fod yno,” meddai, “rhaid imi weld Rhufain hefyd.”

22. Anfonodd i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am amser yn Asia.

23. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnwrf nid bychan ynglŷn â'r Ffordd.

Actau 19