Actau 13:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo.”

3. Yna, wedi ymprydio a gweddïo a rhoi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwy.

4. Felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, daeth y rhain i lawr i Selewcia, a hwylio oddi yno i Cyprus.

Actau 13