Actau 10:42-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

42. Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw.

43. I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw.”

44. Tra oedd Pedr yn dal i lefaru'r pethau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn gwrando'r gair.

45. Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Glân wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd;

46. oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr,

47. “A all unrhyw un wrthod y dŵr i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel ninnau?”

48. A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.

Actau 10