2 Timotheus 1:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Ond dangosed yr Arglwydd drugaredd tuag at deulu Onesifforus, oherwydd cododd ef fy nghalon droeon, ac ni bu arno gywilydd fy mod mewn cadwynau.

17. Yn wir, pan ddaeth i Rufain, aeth i drafferth fawr i chwilio amdanaf, a daeth o hyd imi.

18. Rhodded yr Arglwydd iddo ddod o hyd i drugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw. Fe wyddost ti yn dda gymaint o wasanaeth a roddodd ef yn Effesus.

2 Timotheus 1