2 Thesaloniaid 3:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn ôl y traddodiad a dderbyniodd gennym ni.

7. Gwyddoch yn iawn fel y dylech ein hefelychu ni, oherwydd nid segura y buom ni yn eich plith,

8. na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch.

2 Thesaloniaid 3