8. Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, “Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?”
9. Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, “Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu.
10. Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto—ti, a'th blant, a'th weision—a dod â'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.” Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.
11. Dywedodd Siba wrth y brenin, “Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo.” Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.